Fel y disgwyl, bu’n ddiwrnod llawn rhwysg a seremoni yn y Bae’r wythnos ddiwethaf gyda’r carped coch lawr i groesawu’r Frenhines, Carlo a Camilla i agoriad swyddogol y Chweched Senedd.

Daeth y dyrfa o bell ac agos yn y gobaith o gael golwg ar ei mawrhydi, sy’n 95 oed, yn codi’n araf mewn lifft gwydr i atsain y ffanffer brenhinol – tipyn o olygfa.