Ddechrau’r wythnos bu adroddiadau bod y llywodraeth Dorïaidd yn ailddatgan eu cefnogaeth i adeiladu fflyd o adweithyddion niwclear modiwlaidd. Yr adweithydd sy’n cael ei ffafrio yw Rolls Royce SMR, sef ‘Small Modular Reactor’. Mae’r term hwn yn gamarweiniol iawn gan y byddai’r adweithydd Rolls Royce yn cynhyrchu 450MW o drydan, sy’n fwy na chynnyrch hen orsaf Magnox Trawsfynydd, a’r un maint ag un o hen adweithyddion Magnox mawr y Wylfa. Mae’n ffaith fod Rolls Royce yn gofyn am gymhorth