Gyda galw cynyddol i dynnu sylw at ferched yn hanes Cymru a’r byd, a dysgu hanes Cymru i blant, mae gwasg fach yng Nghaerdydd wedi dechrau ar gyfres newydd sbon i helpu’r achos.
‘Enwogion o Fri’ yw enw’r gyfres liwgar newydd gan Lyfrau Broga o Gaerdydd, sef cwmni cyhoeddi’r awdur Luned Aaron a’i gŵr, y darlunydd Huw Aaron.
Mae’r gyfres gyfoes ei gwedd wedi ei hanelu at y plant iau, tua 3 i 7 oed, i gyflwyno rhai o enwogion Cymru, gyda’r llyfrau wedi eu sgrifennu gan awduron gwahanol.