Mae bardd ac awdur wedi dechrau ymgyrch i osod plac Cymraeg ar dŷ’r bardd enwog yn Abertawe, ac yn bwriadu cynnal rhagor o ddigwyddiadau Cymraeg yno…

Mae cyn-Archdderwydd wedi dechrau ymgyrch i osod plac Cymraeg ar y tŷ lle ganed Dylan Thomas.

Mewn cydweithrediad â Geoff Haden, perchennog 5 Cwmdonkin Drive yn ardal Uplands, Abertawe, galwodd Jim Parc Nest am gefnogaeth ariannol i osod plac Cymraeg ochr yn ochr â’r un Saesneg sydd yno’n barod.