Mae’r llwyfan yn llai a’r aelodau’n brinnach na’r arfer yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, gyda’r blaid yn dewis cynnal cynhadledd hydbrid eleni.

Ac mae’n siŵr bod y trefnwyr yn diolch i Dduw am hynny, gan mai go brin y byddai digon o danwydd i gludo holl ffyddloniaid y blaid i Fanceinion.

Ond o brinder gyrwyr lorïau i gynnydd yng nghostau byw, mae yna gryn gysgod wedi bod dros ddigwyddiad mawr y Torïaid yr wythnos hon.