Aeth Plaid Cymru a Llafur Cymru benben â’i gilydd yn ystod yr etholiad ym mis Mai, yn enwedig yn ardaloedd y De.
Ond mae un o Aelodau o’r Senedd newydd y Blaid yn gwadu bod y ddwy blaid yn bradychu eu cefnogwyr ar lawr gwlad drwy droi at gydweithio â’i gilydd.
Er nad oes sôn am glymblaid ffurfiol, y sôn yw bod Llafur a’r Blaid am ddod ynghyd ar faterion ble mae’r ddwy garfan yn cytuno.
“Mae’n yna dir cyffredin rhyngon ni ac mae angen i ni gydnabod hynny,” meddai Sioned Williams AoS.