Wrth law’r cogydd adnabyddus Heston Blumenthal y dysgodd Nick Rudge ei grefft yn y gegin. Ar ôl saith mlynedd o weithio iddo yn y Fat Duck, mae’r cogydd ifanc ar fin agor ei fwyty ei hun yn nhref Conwy…

Yn 20 oed, Nick Rudge oedd yr aelod ieuengaf o staff i gael ei gyflogi yn y Fat Duck yn Bray, Berkshire, y bwyty enwog sy’n berchen i’r cogydd Heston Blumenthal.