Mae ymgyrchwyr dros Incwm Sylfaenol Cyffredin [ISC] wedi cychwyn deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot sy’n cynnwys gwell croestoriad o gymdeithas.

Ar hyn o bryd mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi ymrwymo i ddatblygu peilot gydag un garfan o gymdeithas yn unig, sef pobol ifanc sy’n gadael gofal.