Roedd yna adeg pan ro’n i’n galaru dros yr holl bethau y credwn oedd ar goll iddi.

Cerddoriaeth. Y wefr ddireidus o allu gwrando ar sgwrs pobol eraill. Y teimlad, ar ôl noson allan hwyr a ffôl, o glywed yr adar mân yn dechrau canu wrth i’r wawr dorri ei lliwiau ar y daith adref. Ochenaid rhywun sydd ddim yn ddigon dewr i ddweud mwy nag anadl, a’r holl bethau gogoneddus a all ddod o ganlyniad i sŵn mor dyner.

Bûm i’n fyddar i’r holl bethau mae hi’n eu clywed o fewn ei mudandod ei hun.