Mae meddygfa yng Ngwynedd wedi gorfod gohirio clinig ffliw oherwydd prinder gyrwyr gan un o gwmnïau cludo sy’n ei chyflenwi gyda’r brechlyn.

Yn ôl Dr Phil White, sy’n Gadeirydd Meddygon Teulu Cymru, roedd o wedi trefnu clinig ffliw i’w gleifion ym meddygfa’r Felinheli – sydd rhwng Bangor a Chaernarfon yng Ngwynedd – ar ddydd Sadwrn, Medi 25.