Ers blwyddyn neu ddwy, mae Angharad Tomos wedi bod yn ymddiddori ym mywyd dau brifardd o’i milltir sgwâr – Robert ‘Silyn’ Roberts, a’i nai Mathonwy Hughes. Roedd y ddau wedi cael eu magu yn yr un tyddyn diarffordd ar weundir agored ger Penygroes yng Ngwynedd.