Un o gwestiynau mawr yr ymgyrch annibyniaeth ydi: sut fath o Gymru fydd gynnon ni? Ond mae yna gwestiwn arall … sut fath o Gymru sydd rŵan? Yn ôl Ifan Morgan Jones, gwlad lle mae yna garfan sylweddol o bobol yn cofleidio Prydeindod hefyd …
“Does dim rhaid i bobol Denmarc, Norwy a Sweden ddewis rhwng bod yn Ddanaiaid, yn Norwyiaid, yn Swediaid neu’n Llychlynwyr. Mi allan nhw fod, ac maen nhw, yn annibynnol ac yn rhan o hunaniaeth ranbarthol ehangach yr un pryd. Os yw Cymru a’r Alban eisio annibyniaeth, un o’r negeseuon allweddol i’w gwerthu i bleidleiswyr yw y bydd Prydeindod yn parhau wedi San Steffan… camgymeriad strategol yw awgrymu bod yr ymgyrch i ddatganoli grym o San Steffan yn golygu Cymreictod v Prydeindod. Mae’n ildio Prydeindod i San Steffan… nid San Steffan a Whitehall yw Prydain, dim ond un filltir sgwâr ohoni.” (nation.cymru)
A sut fath o Gymry – dyna ran o arolwg gan yr elusen Gobaith nid Casineb a’i Phrif Weithredwr, Rosie Carter …
“… er fod y rhan fwya’ o bobol Cymru’n agored, goddefgar a chroesawgar, mae yna gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru sy’n agored i bendilio tuag at gefnogi’r dde boblyddol neu gydymdeimlo gyda’r dde eithafol pan fydd pwysau. Mae’r ymchwil yn dangos croesddweud rhwng canfyddiadau bras o Gymru yn genedl groesawgar a goddefgar, a phocedi o wrthwynebiad i amlddiwylliannedd a mewnfudo. Ond mae hefyd yn dweud y gall y pocedi hyn gynyddu, wrth i galedi economaidd yn sgil y pandemig arwain at ddicter a diffyg ymddiriedaeth gynyddol yn y system wleidyddol.” (nation.cymru)
Un canfyddiad cyfoes ydi fod yna wrthdaro rhwng cenedlaetholdeb draddodiadol a hanes amrywiol ac amrywiaeth gyfoes Cymru …
“Am amser hir, roedd annibyniaeth i Gymru’n ymgyrch a ymladdwyd o gadarnleoedd traddodiadol – a sylweddol wyn – Plaid Cymru yng ngorllewin Cymru, gan ganolbwyntio ar warchod yr iaith Gymraeg a hunaniaeth genedlaethol… yn dibynnu’n aml ar gwynion sathredig am ddiffyg parch Saeson at Gymru a’r Gymraeg, fel cof y cymalau. Mewn oes o dlodi cynyddol, chwalfa hinsawdd sy’n cyflymu ac erydu hawliau sifil, a yw hyn yn ddigon? Yn fy marn i – mwy na thebyg, nac yw. I gael annibyniaeth… rhaid i’r mudiad ddifrifoli. Rhaid iddo edrych heb osgoi dim ar orffennol Cymru – at ei rhan mewn imperialaeth, at yr anghyfiawnderau mawr a wnaed i drigolion Tiger Bay – ac at ei diffyg ymwneud presennol â chymunedau sydd wedi eu neilltuo, o gymunedau BME i bobol LHDTC i bobol ag anableddau.” (Rebecca Wilks, the national.wales)
Mae Adam Price wedi cael ei weld yn rhyw fath fab darogan i Blaid Cymru. Dydi o ddim wedi cyflawni’r addewid eto, meddai Theo Davies-Lewis … ond mae yna gyfle …
“…ry’n ni’n awr yn dod allan o’r pandemig, er yn araf a phetrus. Dyma’r amser i greu adferiad economaidd chwyldroadol yng Nghymru… ers blynyddoedd, mae llawer o sylwebwyr gwleidyddol profiadol wedi clywed addewidion Llafur Cymru ynglŷn â chyflawni ym meysydd iechyd, addysg a’r economi. Mae’r rhai sy’n credu bod chwyldro economaidd a sosialaidd ar y ffordd yn anghywir. Dyna lle mae cyfle Mr Price.” (thenational.wales)
Ateb barddonol David Owens ar nation.cymru yw mab darogan arall – Gareth Bale …
“Ei eiddo yw hiraeth serch at ei wlad, dyhead mawr am godi Cymru’n uwch fyth, tân draig sy’n gwrthod cael ei ddiffodd… pan gaiff Cymru annibyniaeth, mae’n sicr y bydd arweinydd y wlad, Michael Sheen, yn rhoi teitl iddo yn Weinidog Chwaraeon am oes.”