Y llyfr rydw i ar ganol ei ddarllen

A Song for the Dark Times gan Ian Rankin. Mae Rankin yn un o’m hoff awduron ym maes dirgelwch a datrys. Yn ei gyfrolau sydd, gan fwyaf, wedi eu lleoli yng Nghaeredin, mae’n dueddol o sôn am leoliadau go-iawn. Gan fod Caeredin yn un o’m hoff ddinasoedd byddaf wrth fy modd yn chwilio yno am rai o’r mannau hyn, yn enwedig y tafarnau.