Geraint Morgan, yr actor a’r cyfarwyddwr 53 oed o Aberystwyth sy’n portreadu Carwyn James yn y ffilm Grav.
Mae yn byw ym Mae Caerdydd ac wedi actio mewn cyfresi lu dros y blynyddoedd…
Faint o ffan rygbi ydach chi?
Part timer ydw i mewn gwirionedd. Treuliais lawer o amser yn gwylio fy mab, Llew, yn chwarae i Cricc [Clwb Rygbi Ieuenctid Cymry Caerdydd] ac i ysgolion Caerdydd yn yr un tîm â Louis Rees-Zammit a Ioan Lloyd. Ioan oedd yn cadw fy mab rhag gwisgo’r rhif 10. Am chwaraewr! Rwy’n falch i’r mab roi’r gorau iddi, gan i mi dreulio gymaint o amser yn A&E.
Dw i ddim yn dilyn tîm rygbi penodol, dim ond Cymru… felly, ie, part timer ydw i.
Roeddwn yn ’nabod Ray yn weddol fach. Pan oeddwn yn chwarae rhan ‘Barry John’ yn Pobol y Cwm ac yn gweithio yn [stiwdio’r BBC yn] Llandaf, dyma gyrraedd un bore i weld Ray yn siarad gyda Barry John [y chwaraewr rygbi enwog] yn y dderbynfa. Fe alwodd fi draw a’m cyflwyno. “Barry John… Barry John,” meddai.
Sa i’n credu o’dd Barry John yn rhy impressed.
Daeth y cynnig i chware rhan Carwyn yn y ffilm fel sioc braidd. Ta beth, roedd yn fraint cael portreadu’r dyn.
Sut beth yw’r ffilm?
Mi welais y cynhyrchiad llwyfan, ond mae’r ffilm yn dra gwahanol. Roedd Carwyn yn ffigwr tadol ym mywyd Ray ac yn ddylanwad pwerus. Ei gamp yn fwy na dim oedd cael Ray i gredu yn ei hun. Er yn gawr o ddyn, roedd rhywbeth fymryn yn fregus am Ray. Ond gyda geiriau Carwyn yn ei glustiau, roedd yn tyfu fodfeddi.
Dw i heb fod yn gwneud llawer o actio yn ddiweddar. Dyma oedd fy ngwaith cyntaf yn y Gymraeg ers pum mlynedd, a dim ond dau ddiwrnod oedd e.
Ond roedd hi’n braf iawn cael y cyfle i weithio gyda Gareth [Bale, sy’n actio Ray]. Mae Gareth yn gyfaill ac yn arbennig yn y rhan gyda llaw.
A braf oedd gweithio gyda’r cyfarwyddwr, Marc Evans. Dw i heb weithio gyda Marc ers un o fy jobs cynta’ pan yn fachgen ysgol mewn ffilm o’r enw Y Cyfle Olaf. Mae Marc yn hyfryd i weithio gyda fe. Ti’n gwybod dy fod mewn dwylo da.
Sut wnaethoch chi gychwyn actio?
Ysgol. Pwdryn oeddwn i yn yr ysgol, er mawr bryder i fy rhieni. Roeddwn i am chwarae. Cefais fy nghyfleon i berfformio gan fy athrawes Ann Davies – dynes hyfryd – a Keith Davies, a bu’r ddau yn fy annog i fwrw ymlaen gyda fy mreuddwydion .
Bu Cwmni’r Urdd a Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn hwb mawr i’r perwyl hynny. Cefais rywfaint o lwc, yn enwedig pan gefais fy nghastio yn rhan ‘Barry John’ yn Pobol y Cwm yn 1988… ers i hwnnw ladd ei hun cefais yrfa reit amrywiol.
Beth yw’r cymeriadau wnaethoch chi fwynhau eu hactio fwyaf?
Fy hoff rannau teledu yn y Gymraeg oedd ‘Rodney Langton’ yn Tân ar y Comin, ‘Geraint’ yn 35 Diwrnod a ‘Dr Hywel’ yn Teulu.
Oedd yna gyfnodau pan oedd pobol yn eich ’nabod chi ar y stryd
Rhyw enwogrwydd rhan amser yw hi i fod yn actor sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhan fwyaf. Cefais sawl achlysur digon annymunol pan yn chwarae ‘Barry John’. Roedd pobl wir yn credu taw fi oedd y shinach bach…
Beth yw’r peth gorau – a’r gwaethaf – am actio?
Yr ateb onest… mae’n crap y rhan fwyaf o’r amser. Mae mwy neu lai yn amhosibl gwneud bywoliaeth yn y Gymraeg erbyn hyn.
Bu’n bum mlynedd ers i mi weithio yn y Gymraeg a dwy a hanner ers i mi weithio’n Saesneg.
Ond, mae hyn wedi fy ngorfodi i arallgyfeirio ac rwy’n cyfarwyddo erbyn hyn. Mae’n llawer gwell gen i wneud hefyd. Mae rhywun yn ganolig i’r holl beth ac mae’r cyfrifoldeb yn dod â’r gore allan ohona i. Dw i wrth fy modd yn cydweithio gydag actorion a chriw. Mae fel chwarae tŷ i oedolion ac yn fraint cael fy nhalu am wneud.
Beth yw eich atgof cynta’?
Chwarae rygbi yn yr ardd yn Llangefni, lle’r oedd Dad yn brifathro. Mae Mam a Dad yn fyw ac yn fywiog ac yn hyfryd. Mi roiais amser caled i’r ddau yn fy arddegau – roedd gen i esgus da gyda Dad yn brifathro a Mam yn Ficer. Felly mae’n dda medru dod ’mlaen gyda nhw cystal nawr… bu’r ddau yn hynod gefnogol i mi dros y blynyddoedd, drwy’r da a’r drwg. Mae fy nyled iddynt yn enfawr.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Nofio, rhedeg, a chodi pwysau ysgafn. Boring, ond hanfodol er mwyn cael byw cyn hired â fy rhieini, mae’n debyg. Dw i prin yn yfed bellach, sy’n help mawr hefyd. Mae myfyrio’n bwysig hefyd. Y meddwl mor bwysig â’r corff. Dw i’n defnyddio app Sam Harris, Waking UP, ac yn ei argymell i bawb.
Beth sy’n eich gwylltio?
Cybydd-dod.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Neb enwog, jest fy ffrindiau. Maen nhw’n gwybod pwy ydyn nhw. Mi faswn i’n paratoi bwyd thai.
Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?
Rebecca, fy nghymar.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
FFS.
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Barti Ddu, os oes rhaid mynd mewn blydi gwisg ffansi.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Chwarae rhan ‘Juno’ [duwies cariad] mewn cynhyrchiad o The Tempest. Roeddwn i’n gwisgo ffrog hir ac ar ben stilts. Poerodd ‘Caliban’ ddŵr ar y llwyfan a llithrais ar y stilts a chwympo.
Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?
Parti fy ffrind Hugh Thomas i ddathlu cael ei olwg nôl… 1996 rwy’n credu. Rave yng nghastell Caerffili.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Fy meddwl, sydd fel petai â meddwl ei hun.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Y llyfrau Mr Gum i blant, gan Andy Stanton. Roeddwn i’n rowlio chwerthin yn eu darllen i fy mechgyn, Llew ac Ifan.
O ran llyfrau oedolion, dw i ddim yn darllen digon ond dw i’n ffan o lyfrau Jonathan Coe ac Ian McEwan.
Beth yw eich hoff air?
Lluwcho.
Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?
Fy mod i a fy nghariad [sy’n byw yn Llundain] yn mynd i lwyddo i fyw gyda’n gilydd.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Wnes i ddwyn gwinedd fy nhraed oddi ar hobbit.
- Bydd Grav ar S4C nos Sul, 12 Medi, am naw – ar yr union ddiwrnod y byddai Ray Gravell wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed