Gyda digon o drafod yn y newyddion am silffoedd gweigion yn ein siopau a diffyg gyrwyr loris, mae effeithiau Brexit yn araf ymddangos ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd naw mis yn ôl.

Mae’n argoeli nad yw gwlad yr addewid – y Brydain ôl-Frexit sydd ohoni – yn fêl i gyd i amaethwyr.

Ers troad y mileniwm mae amaethwyr Cymru wedi bod yn fwyfwy dibynnol ar weithwyr o Ewrop.