Ddeugain mlynedd yn ôl cyrhaeddodd y merched cyntaf Gomin Greenham, gan ddechrau’r brotest fwyaf i gael ei harwain gan fenywod ers yr ymgyrch dros roi’r bleidlais i ferched.

Ddiwedd Awst 1981, fe wnaeth 36 o ferched orymdeithio o Gaerdydd i Gomin Greenham yn Berkshire i ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear oedd am gyrraedd yno o’r Unol Daleithiau.

Arweiniodd y daith, a gafodd ei threfnu gan Ann Pettitt, at sefydlu gwersyll heddwch menywod Greenham, a bu protestwyr yno am 19 mlynedd.