Mae Kim Hon wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Stoppen Met Rocken, ac mae’n gyfanwaith sy’n llawn rhyfeddodau.

Mae’r criw o Arfon – sy’n cynnwys Iwan Fôn (Prif Leisydd), Iwan Llŷr (Gitâr), Siôn Gwyn (Gitâr/ Synth), Caleb Rhys (Bas) a Cai Gruffydd (Dryms) – wedi bod yn un o fandiau byw mwyaf cyffrous y Sîn Roc Gymraeg ers rhai blynyddoedd bellach.

Ymhlith rhai o senglau mwyaf cofiadwy’r band, mae caneuon megis ‘Nofio efo’r Fishis’, ‘Twti Ffrwti’ a ‘Pry yn y Gwynt’.

Pam felly ein bod ni wedi gorfod aros cyhyd i gael EP?

Fel gyda chymaint o bethau’r dyddiau hyn, mae pandemig y coronafeirws wedi chwarae rhan.

“Mae o’n un od, achos dw i’n defnyddio’r un gofod, neu pan o’n i’n gweithio o adra dros y pandemig, ro’n i’n gwneud fy swydd yn yr un lle a dw i fel arfer yn gweithio ar fiwsig,” meddai Iwan Llŷr.

“Felly ro’n i’n ffeindio fo’n anodd iawn gwneud y ddau beth yn yr un gofod mewn ffordd.

“Ro’n i’n gorffen diwrnod o waith a jyst isio dianc i ffwrdd o’r ddesg yn hytrach na mynd yn ôl ati.

“Felly nath hynna ddal fi yn ôl dipyn go lew.

“Y peth arall ydi bod y rhan fwyaf o ysbrydoliaeth ma’ fi ac Iws (Iwan Fôn) yn cael yn dod o pan oedden ni allan yn pub… dydyn ni ddim yn tueddu i drafod y pethau ’ma gymaint pan ’da ni yn y stiwdio, mae o’n rhywbeth mwy cymdeithasol.

“Felly oherwydd y diffyg contact wyneb yn wyneb yna doedd pethau jyst ddim yn cael eu trafod gymaint.

“Doeddet ti ddim yn cael y drive yna drwy riffio dros beint.”

Y gitarydd Iwan Llyr sy’n gyfrifol am greu’r gerddoriaeth ar gyfer yr albym, gydag Iwan Fôn – front man mwyaf egnïol Cymru – yn ysgrifennu a chanu’r geiriau.

Sut beth oedd y broses recordio felly?

“Rhan amlaf dw i’n sgwennu’r miwsig i gyd ac wedyn pan bo gena i ddemo gorffenedig dw i’n taflu hwnna draw at Iwan Fôn a neith o ddod fyny efo syniadau am lyrics a be’ mae o am ganu.

“Mae be’ mae Iws (Iwan Fôn) yn dod i fyny efo yn bethau eithaf gwirion, wel dw i’m yn gwybod os mai gwirion ydi’r gair iawn, ond dyda ni ddim yn cymryd ein hunain o ddifrif o gwbl ac mae hynna yn rhywbeth sy’n gweithio’n dda rhwng y ddau ohona ni.

“Beth bynnag mae o’n taflu allan yna, does yna byth fatha ‘na mae’n rhaid i ni wneud hwn yn gallach neu ‘mae o’n swnio yn wirion’.

“Rôl fi ydi gwneud y miwsig a be’ bynnag mae o isio dweud ar ben hynna, mi geith o fynd yn nyts math o beth, mi geith o wneud be’ bynnag mae o isio.”

Stoppen Met Rocken

Un o ryfeddodau’r EP hwn ydi’r teitl ei hun, Stoppen Met Rocken.

O fwg ar y cyfandir ddaeth yr enw.

“Oddi ar a pouch bacco gafon ni fo,” eglura Iwan.

“Roedden ni newydd ddod oddi ar wyliau o Amsterdam ac roedd rhywun wedi dod a pouch yn ôl o Amsterdam.

“Wedyn roedden ni’n eistedd ar wal tafarn yr Anglesey yn dre (Caernarfon) jyst yn cael peint aballu a nath rhywun sbotio Stoppen Met Rocken ar y pouch, ac mae o jyst yn swnio’n funny yn dydi.

So basically, roedden ni’n siarad efo mêt ni Scott a ddaru ni addo iddo fo pe basa ni’n rhoi albym neu EP allan mai hwnna fasa’r enw y basa ni’n rhoi arno fo.

“Felly gan bo’ ni wedi addo, dyna di’r enw.

“Dydi o ddim yn swnio fel neges dda.”

Aston Villa a Ghana

Rhyfeddod mawr yr EP ydi’r gân ‘Daniel Aboagye’, ac er mai dim ond ychydig dros funud o hyd ydi hi mae hi bendant yn aros yn y cof.

Mae hi’n anodd iawn dweud beth sy’n mynd ymlaen yn y gân ar y gwrandawiad cyntaf, gan mai’r oll sydd i’w glywed yw gweiddi Affricanaidd ei naws dros sŵn synth sy’n ddim byd llai na gwallgof.

Felly beth yn y byd sy’n mynd ymlaen yn y gân hon?

“Dw i’m di trafod hwn efo neb eto, felly dyma exclusive i chdi,” meddai Iwan wrth chwerthin.

“Mae yna griw o gefnogwyr Aston Villa sy’n byw mewn pentref yn Ghana, y ‘Ghana Lions’ ydi enw’r criw, ac o be’ dw i’n ei weld mae pawb yn y pentref ’ma yn cefnogi Aston Villa.

“Maen nhw yn cwrdd ag yn gwylio’r gemau i gyd, maen nhw’n fanatics.

“Felly be’ dw i wedi ei wneud ydi samplo fideo ohonyn nhw yn canu – ac mae o reit anodd i wneud allan ar y trac – ond basically maen nhw’n rhestru timau y Premier League a mynd ‘I don’t know Everton, I don’t know Arsenal’ a gwahanol dimau sy’ ddim yn Aston Villa.

“Wedyn tuag at y diwedd maen nhw i gyd yn dechrau canu ‘Aston Villa, Aston Villa’.

“Felly nes i roi ambell synth dros hwnna a dyna sut ddoth o gwmpas.”

Daw pethau i wneud mwy o synnwyr wrth i Iwan egluro ei fod yntau yn gefnogwr brwd o Aston Villa.

Ond sut ddaeth o ar draws y ‘Ghana Lions’? A pham yr enw Daniel Aboagye?

“Dw i reit siŵr mai dod i fyny ar recommendations fi ar un ai YouTube neu Facebook ddaru o.

“Ond mae yna fideo sydd werth ei weld hyd yn oed os wyt ti ddim yn cefnogi Villa ar YouTube tasa rhywun yn rhoi ‘Ghana Lions’ i mewn.

“Mae o’n dangos ŵyr y boi ’ma, sef Daniel Aboagye, yn cael ei gyfweld am ei daid o ddaru ddechrau’r holl beth drwy ddweud straeon wrth y pentref am Villa yn yr 80au dw i’n meddwl… a ma’ raid ei fod o’n siaradwr da oherwydd y Daniel yma sydd wedi dylanwadu’r lleill i gyd i gefnogi Villa

“Felly o’r fideo yna mae’r enw wedi dod.”

Arbrofi gyda power chords

Rhywbeth sy’n dod yn amlwg o wrando ar yr EP ydi nad yw Kim Hon yn fand sydd am gael ei gyfyngu i un sŵn neu naws benodol.

Does gan y band ddim ofn symud i ffwrdd o’r naws fwy swynol oedd yn perthyn i’w caneuon cynnar a chwarae o gwmpas gyda’i sŵn – maen nhw yma i arbrofi!

Cawn yr enghraifft orau o hyn yn y gân ‘Cadw’r Newid’ lle mae Iwan yn dweud ei fod wedi dablo gyda power chords er nad ydi o’n rhy hoff ohonynt ar y cyfryw.

Iwan sydd hefyd yn canu ar y gân hon yn hytrach na’r prif leisydd Iwan Fôn, ac mae’n dweud fod hynny oherwydd bod ganddo dipyn o demos lle mae’n canu a’i fod eisiau i bobol ddod i arfer gyda’i lais.

“Dw i’m isio i bobol droi rownd a mynd ‘pwy di’r boi yma?’” meddai.

Ond awch i “wneud pethau’n wahanol” sydd wrth wraidd ‘Cadw’r Newid’.

“Dw i’n meddwl bod Cadw’r Newid yn swnio’n wahanol achos dw i wastad yn trïo osgoi power chords ar yr E string achos dw i’m yn licio’r twrw gymaint.

“Ond dw i’n licio gosod, dim challenges, ond trïo gwneud pethau’n wahanol weithiau… fatha rhyw sbarc bach o ysbrydoliaeth a dyna lle nath y gân ddechrau mewn ffordd, jyst fi’n trÏo sgwennu cân efo power chords i weld oes o’n i’n gallu mewn ffordd a dilyn o drwodd.

“Felly nes i sgwennu’r gân i gyd fwy neu lai mewn diwrnod fatha rhyw arbrawf fwy na dim byd ac roedd o’n swnio’n iawn.

“Mae gena ni lot o ganeuon ’da ni’n chwarae yn fyw sydd heb gael eu recordio yn iawn llu, fatha hanner demos, ac roedd y ffordd es i o gwmpas hwn yn eithaf taclus ac yn barod i fynd felly pam lai.

“A dod yn ôl at yr un Daniel Aboagye a’r drefn mae’r tiwns yn cael eu chwarae ar yr EP, ro’n i’n meddwl ei fod o’n funny achos bod o’n swnio fel bod yr hogia’ ‘ma o Ghana yn dod yna a chymryd drosodd ac yn rhoi go i fi gael canu.”

Gigio yn Dyn Gwyrdd

Newydd ddod yn ôl o gigio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd oedd Kim Hon pan siaradodd Iwan gyda Golwg, ac mae’n dweud bod y band yn edrych ymlaen at allu perfformio’n amlach wrth i gyfyngiadau Cymru lacio.

“Y gig yn Greenman oedd gig cynta’ ni ers oes pys a doedden ni methu disgwyl i gael chwarae,” meddai.

“Nid yn unig caneuon oddi ar yr EP, ond dw i’n meddwl bod tua hanner y set yn bethau dydi pobol heb glywed felly roedd o’n dda i bobol allu clywed pethau sydd gena ni ar y gweill.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at gael mynd allan yna’n amlach rŵan a dangos yr holl bethau rydan ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw.”

  • Mae modd gwrando ar yr EP newydd ar yr holl wasanaethau ffrydio arferol