Does yna ddim y fath beth â “gwyliau” lawr yn y Bae – “toriadau” maen nhw yn galw’r cyfnodau pan mae ein meistri gwleidyddol i ffwrdd o’r Senedd.

Ac mae “toriad” yr Haf yn para WYTH WYTHNOS – o 19 Gorffennaf tan 12 Medi.

A fiw i chi awgrymu wrth y gwleidyddion eu bod nhw ar wyliau hael am yr wyth wythnos dan sylw… “toriad” o’r Senedd maen nhw yn ei gael, ond tydyn nhw DDIM ar wyliau. DALLT?!