Caredigrwydd Michael Gove!

Does dim diwedd ar garedigrwydd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, wrth iddo ddweud wrth bapur Albanaidd y Sunday Mail na fyddai ei Lywodraeth yn ceisio atal ail refferendwm annibyniaeth yno os mai dyna “ewyllys sefydlog y bobol”.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth San Steffan wrthod nifer o geisiadau gan Lywodraeth yr Alban am y pwerau angenrheidiol i ddechrau’r broses.