Mae’r dadlau’n parhau am y pandemig. Ac, yn groes i lawer, mae Leanne Wood yn feirniadol o Lywodraeth Lafur Cymru. Y cyfnod sy’n dangos y broblem, meddai hi, oedd hydref y llynedd …

“Fe gafodd y system brofi ac olrhain ei boddi’n gyflym. Er bod clo tros dro wedi ei argymell gan Sage ym mis Medi, dim ond fis yn ddiweddarach y cafodd ei gyflwyno, er gwaetha’ rhybudd o ‘epidemig mawr iawn gyda chanlyniadau catastroffig’… ac felly y bu … yn y cyfamser, mae Drakeford a Llafur Cymru ar frig y don … dyna glyfar, hyd yn oed sinigaidd, yw peiriant sbin Llafur Cymru yn cuddio’r gwir a hawlio llwyddiant am yr hyn sydd wedi bod yn drychineb yr oedd  modd ei osgoi i bobol Cymru. A gawn nhw eu galw i gyfri? Mae hynny yn ein dwylo ni.” (thenational.wales)

Gweld eironi y mae John Dixon wrth i Geidwadwyr Cymru hefyd feirniadu’r Llywodraeth ond, yn ôl borthlas.blogspot.com, mae hynny am y rhesymau anghywir …

“Un o elfennau mwy diflas ond disgwyliadwy gwleidyddiaeth y pandemig yw amlder y galwadau gan gangen ‘Gymreig’ Plaid Geidwadol ac Unolaethol Lloegr yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn Lloegr bob tro, er mwyn cynnal ‘cysondeb’… mae yna eironi pendant fod pobol sydd wedi treulio blynyddoedd yn dadlau tros Brexit yn benodol er mwyn i’r Deyrnas Unedig allu dilyn rheolau gwahanol i’r lle dieithr hwnnw dros y dŵr o’r enw Ewrop bellach yn dadlau bod cael rheolau gwahanol rhwng cymdogion yn ddryslyd.”

Wrth i’r Alban baratoi i groesawu cynhadledd amgylcheddol fawr COP26, dyna sy’n mynd â sylw Mike Small ar bellacaledonia.org.uk ond mae yntau hefyd yn cynnig agwedd wahanol i’r arfer …

“…dangosodd ymchwiliad yn 2019 fod 20 o gwmnïau tanwydd ffosil, gan gynnwys Chevron ac ExxonMobil, yn gyfrifol am fwy na thraean yr holl nwyon tŷ gwydr sydd wedi eu gollwng ers 1965 – dyna pryd, yn ôl arbenigwyr y daeth cwmnïau tanwydd ffosil yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng eu cynnyrch a newid hinsawdd. Yn ôl adroddiad yn 2017, cawn wybod hefyd fod cynnyrch 100 o gwmnïau tanwydd ffosil preifat a gwladol wedi’u cysylltu â 71% o’r nwyon tŷ gwydr diwydiannol sydd wedi eu gollwng trwy’r byd ers 1988. Dydyn ni ddim yn gyfrifol yn unigol am y chwalfa hinsawdd a chaiff honno ddim o’i datrys trwy i ni ailgylchu ein poteli neu newid gwres ein peiriant golchi i 40 gradd. Twyll yw hynny.”

Ac mae yna argyfwng arall yng Nghymru – argyfwng twristiaeth …

“A hithau’n arfer bod yn weithdy’r byd, rhaid i ni sicrhau nad yw Cymru’n troi’n ddim ond maes chwarae tymhorol, ond yn hytrach yn gyrchfan fydenwog lle mae gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ymrwymiad di-ildio i gynnal ei haith, ei diwylliant a chymunedau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu agwedd gyflawn at dwristiaeth, gan warchod buddiannau lleol fel tai ffoddiadwy a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol wrth hyrwyddo ymweliadau i Gymru gyda pharch a meddylgarwch.” (Luke Fletcher AoS, thenational.wales)