Mae yna gasgliad swmpus o ganeuon Cymraeg o’r 1980au ar gael i’w ffrydio am y tro cyntaf…

Camwch yn ôl i’r gorffennol, gyfeillion, i ddyddiau pan oedd Bryn Fôn yn canu cân ddisco space-funk am Dduwies yn y gofod o’r enw ‘Gwalaxia’.

Dewch yn ôl i gyfnod pan oedd Cedwyn Aled yn rhoi ordors powld – mewn llais hyfryd o secsi – i Gymry benbaladr: “Dewch i whare yng Nghaerdydd, yng nghanol y bourgeoisie, dinas fach, ddim yn rhy ddryd…”

Mae’r daith yn ôl i’r 1980au yn bosib diolch i’r ffaith fod perchennog cwmni Recordiau 123 wedi rhoi ôl-gatalog cyfan y cwmni ar y We i’w ffrydio, sef tua chant o ganeuon.

Wrth reswm, mae blas synth, sacs a sŵn mawr yr 1980au yn dew ar y traciau hyn, ac mae yna berlau lu i’w clywed.

Ac mae yna gerddorion ac actorion adnabyddus wrthi yn udo a rocio – Tich Gwilym, Dewi Pws, Bryn Fôn, Dyfed Thomas a Derec Brown Hergest.

Hefyd i’w glywed ar y bass ar sawl trac mae Pino Palladino, y cerddor o Gaerdydd aeth yn ei flaen i chwarae gyda The Who, Gary Numan a Richard Ashcroft o The Verve.

Ac fel tae hynny ddim yn ddigon, mae un o gymeriadau mwya’ cofiadwy Pobol y Cwm yn rhan o hanes Recordiau 123, y label a gafodd ei sefydlu gan y gitarydd Dafydd Pierce.

Huw Ceredig – neu ‘Reg’ ar yr opera sebon – dalodd am recordio’r sengl gyntaf i gael ei rhyddhau gan Recordiau 123, ar ôl dod ar draws Dafydd Pierce yng Nghlwb y BBC yn Llandaf.

‘Gwneud Dim’ gan Hywel Ffiaidd oedd y sengl honno, gyda’r actor Dyfed Thomas yn canu geiriau’r dramodydd Meic Povey… ia, actorion a dramodwyr oedd yn rocio’r 1980au!

Mae ‘Gwneud Dim’ yn gân ryfedd, o ran y gerddoriaeth – cyfuniad od o benillion pync, ymosodol a chytgan ddisco ‘sgafnach. O ran y geiriau, aelod o’r crachach sydd dan y lach:

‘Dw i’n uchel yn y bar

yn gofyn am fy siâr…

Ond yn gwneud dim byd.

 

Mae fy mywyd i yn braf

Majorca yn yr Haf…

 

Mae gen i ffrind sy’n byw yn jêl

O-ho dw i’n licio’i ganmol

Mi dynnodd arwydd mawr i lawr

Tu allan i Ffostrasol…

 

Dw i’n meddwl wrth fy hun

Am broblem tai Pen Llŷn

Mi leiciwn losgi un

Ond dw i’n gwneud dim…’

Hywel Ffiaidd a’i wraig

Roedd Dafydd Pierce yn chwarae ym mand Hywel Ffiaidd, oedd hefyd yn perfformio caneuon beiddgar gyda geiriau agos-at-yr-asgwrn megis ‘Plismon’, ‘Cân John Jenkins’ am arweinydd Mudiad Amddiffyn Cymru, a ‘Croeso Diana’ – cân roc ffyrnig am wraig gynta’ Pruns Charles.

Mae hi’n werth i chi wrando ar y caneuon yma i gael syniad o griw o gerddorion gwleidyddol yn tynnu blewyn o drwyn pwysigion y 1980au.

“Roedd Hywel Ffiaidd yn eitha’ radical, yn canu caneuon am terrorists a’r achos,” cofia Dafydd Pierce.

Dafydd Pierce ar lwyfan yn ei ddyddiau gyda Hywel Ffiaidd

“Be’ oedd pwynt canu Cymraeg os nad oeddet ti yn mynd i gefnogi’r achos?

“Hefyd, yn ôl yn y dydd, roedd pob peth Cymraeg yn eithaf parchus a serchus.

“Ac roeddan ni’n meddwl: ‘Mae yn rhaid i ni gael pethau ffiaidd yn Gymraeg hefyd!’

“Neu tydi’r iaith ddim yn gyflawn heb hynny…”

Sdoncars

Fydd pob un o ganeuon ôl-gatalog Recordiau 123 ddim at eich dant, wrth reswm, ond mae yma ganeuon gwirioneddol wych.

Sdoncar secsi yw ‘Dewch i Whare’ gan Cedwyn Aled, sy’n swnio fel Billy Idol neu David Bowie [fersiwn y 1980au] yn eich herio – yn Gymraeg! – i feiddio mynd lawr i’r brifddinas am sbri di-ri’.

“Gafodd y gân yna lot o airplay adeg oedd y gemau rygbi rhyngwladol yng Nghaerdydd,” cofia Dafydd Pierce.

“Serch tydi’r gân ddim actually am rygbi, ond roedd o’n wahoddiad i fynd i Gaerdydd on’d oedd.

“A beth oedd yn grêt am y gân yna, oedd mynd i Clwb Ifor Bach a gweld pawb yn codi ar eu traed pan oedd y gân yn dod ar. Very satisfying!”

Uchafbwynt amlwg arall yw’r gân ‘Cam Weld’ gan Cam, trac sy’n gorlifo gyda sacsaffôn safonol a feib debyg i ‘Comfortably Numb’ gan Pink Floyd… ac oes, yn union fel clasur y Floyd, mae yna solo gitâr ffret-tastig ar ‘Cam Weld’.

“Dau frawd o Gorseinon oedd Cam,” cofia Dafydd Pierce. “Roedd ganddyn nhw heavy metal band o’r new Merched Beca gynt…

“Fe gawson nhw foi o Gastell Nedd fewn i chwarae’r solo gitâr. Wnaeth o ddim ond dod fewn ag allan [o’r stiwdio].”

A sôn am fetel trwm, mae’r gân ‘Mas o’i ben bob nos’ gan Mochyn ‘Apus yn swnio fel Black Sabbath ar eu gorau.

Roedd y band Mochyn ‘Apus yn esbygliad o Hywel Ffiaidd, gyda Dewi Pws a Tich Gwilym yn ymuno gyda Dyfed Thomas a Dafydd Pierce.

“Wnaethon ni ddechrau gigio fel y diawl ar ôl recordio’r trac yna,”” cofia Dafydd Pierce, “ac roedden ni yn cael lot o ymateb gan bobol ifanc.

“Argol, doeddwn i yn methu credu’r response gawson ni…

“Fe wnaethon ni gig ym mhafiliwn Corwen, a gollwng life-boat flare i gael effaith.

“A wnaeth y lle lenwi efo’r mwg oren yma… roedd o dipyn bach yn too much!”

Jagger, LA, a Bryn Fôn ar y micsar

Yn hanu o Benrhyndeudraeth, mae gan Dafydd Pierce straeon roc-a-rôl rif y gwlith.

Fe ddechreuodd ei yrfa gerddorol yn chwythu cornet i’r band pres lleol yn fachgen wyth oed.

Aeth ymlaen i chwarae’r gitâr yn 12 oed, a ffurfio band o’r enw The Z Group yn chwarae twelve bar blues mewn dawnsfeydd.

Ar derfyn y 1960au fe adawodd yr ysgol yn 16 oed i drio’i lwc mewn clyweliadau ar gyfer grwpiau roc megis T-Rex, band enwog Marc Bolan.

Ac roedd yn adnabod rhai o gewri roc yr oes.

“Roeddwn i wedi cyfarfod Mick Jagger a’i frawd o, achos roedden nhw yn dod fyny i’r gogledd i fod yn westai i blant Lord Harlech,” cofia.

“Ac fe ges i wahoddiad gan Chris, brawd Mick Jagger, i fynd i recordio yn mansion Mick Jagger ar bwys Newbury [yn Hampshire]. Ac roedd ganddyn nhw’r Rolling Stones mobile recording studio wedi parcio tu allan, ac roedden nhw newydd orffen gwneud Sticky Fingers.”

Dafydd Pierce gyda Chris Jagger yn y 1970au

Tua’r un pryd daeth gwahoddiad i fynd i Los Angeles i recordio caneuon gyda Rock Bryner, mab yr actor Yul Bryner a serenodd yn y ffilm The Magnificent Seven.

Erbyn diwedd y 1970au roedd gan Dafydd Pierce stiwdio yng Nghroesor, ger Penhryndeudraeth, “ond doedd dim digon o fandiau i’w chynnal”, felly mi drodd am y brifddinas.

Agorodd Stiwdio 123 yn 123 Bute Street yn ardal dociau Caerdydd yn 1979, gyda chymorth ariannol cwpwl o bartneriaid, a chael help gan actor enwog i roi trefn ar y lle.

“Doedd ganddon ni ddim arian mawr, a wnaethon ni’r gwaith adeiladu ein hunain,” cofia.

In fact, wnaeth Bryn Fôn roi hand i mi i gymysgu sment a llifio coed a phethau fel yna… achos roedda ni yn rhannu tŷ ar y pryd, felly’r oedd hi yn all hands on deck!”

Fe fyddai’r ddau yn cyd-sgrifennu’r gân space-funk ‘Gwalaxia’ sydd ar yr albwm Gorsaf y Gofod.

Mi ddaeth Pino Palladino draw i chwarae bass ar y record yna.

Dafydd Pierce yn ei ddyddiau yn Ddyn Sain ar raglen Heno

“Roedd o’n naturiol bod cerddorion y bandiau oedd yn chwarae [yng nghlwb nos] y Casablanca a’r clybiau yna yn ardal Butetown yn eiddgar iawn i gael profiad o weithio mewn stiwdio, felly roedden nhw yn byw a bod yn stiwdio fi,” cofia Dafydd Pierce.

Yn 69 oed, mae Dafydd Pierce yn dal i gyfansoddi cerddoriaeth gefndirol ar gyfer rhaglenni teledu yn ei stiwdio yn ei gartref yn Llanfynydd, pentref bach gwledig yn Sir Gaerfyrddin.

Ond mae wedi ymddeol o’i waith yn Ddyn Sain ar raglenni teledu. Fe gychwynnodd y gwaith hwnnw ar raglen Heno yn y 1990au, ac roedd yn Ddyn Sain ar y gyfres gyntaf o SAS Who Dares Wins a gafodd ei ffilmio yn Sir Benfro a’i dangos ar Channel 4.

  • Mae ôl-gatalog Recordiau 123 ar gael i’w ffrydio nawr – ewch draw am sbec!