Mae llygaid-dystion sydd wedi gweld pobol ar jet sgis yn aflonyddu ar fywyd gwyllt y môr yn dweud bod angen rheoli ble mae’r badau cyflym yn cael mynd.

Yn ôl y Cymro Cymraeg Ben Porter o Ynys Enlli – sy’n naturiaethwr ac yn ffotograffydd – mae’r sefyllfa bellach “allan o reolaeth”.

“Y broblem ydi fod llawer sy’n defnyddio’r jet sgis yn dod yma am gwpl o wythnosau yn yr haf ac maen nhw’n dod o lefydd sydd heb ymwybyddiaeth amdan y broblem.”