Mae’n 60 mlynedd y mis hwn ers sesiwn gyntaf holi’r Prif Weinidog yn Senedd San Steffan, defod sy’n cael ei hystyried yn un o uchafbwyntiau gwleidyddol yr wythnos ym Mhrydain.

Bob dydd Mercher bydd Prif Weinidog y dydd yn mynd benben gydag Aelodau Seneddol gan ateb cwestiynau gan bob plaid ar unrhyw bwnc.