Mae Iwan Williams, canwr 24 oed y band Hyll – sy’n adnabyddus am eu baled biano wych ‘Coridor’ – yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i’r Gymdeithas Multiple Sclerosis yn helpu cleifion yng Nghymru.
Ac mae ei fand newydd ryddhau’r EP Mymryn…
Sut beth yw’r EP newydd?
Mae’r enw Mymryn yn eithaf disgrifio sŵn a naws yr EP – mae’r caneuon yn eithaf sparse a minimalaidd.
Mae wastad wedi bod dau fath o gerddoriaeth yn Hyll – un yn pync a fwy egnïol, ac wedyn yr ochr fwy melodaidd ac ychydig mwy tyner, ac mae’r EP yn mynd i’r cyfeiriad yna.
Mae ‘Coridor’ i’w chlywed yn aml ar Radio Cymru – ai oherwydd ei phoblogrwydd rydach chi wedi mynd i gyfeiriad mwy tyner gyda’r caneuon newydd?
Ie, ryw ychydig. Roedd e wastad yna, ond ryden ni wedi canolbwyntio arno fe yn fwy agored.
Ac mae’r EP yma fwy am gymeriadau a straeon, pob cân yn ddeialog bach yn canolbwyntio ar rywun gwahanol.
O’r blaen roeddwn i’n tueddu i sgwennu caneuon oedd yn deillio yn syth o fy mhrofiadau i, fel yn y gân ‘Coridor’.
Mae yna fwy o ddychmygu pethau yn y caneuon newydd.
Pwy yw aelodau Hyll?
Rydw i’n canu a chwarae gitâr, mae Jac Evans yn chwarae bass, ac mae Owain Jones yn chwarae dryms a gwneud y fideos i gyd hefyd.
Fi sy’ wedi cyfansoddi pob nodyn a’r geiriau i gyd ar yr EP yma – wnes i ofyn am help, cwpwl o weithiau, ond na…!
Ond mae’r ddau arall yn gwneud y caneuon yn fwy diddorol wrth eu recordio.
Pam wnaethoch chi ddewis bod yn ganwr?
Roedd gen i wastad ddiddordeb mewn sgwennu lyrics, wedyn fi oedd kind of yn gorfod canu.
Ond rydw i yn eithaf mwynhau canu… ond doeddwn i ddim, yn y lle cyntaf.
Oeddech chi’n arfer canu yn y steddfod a ballu?
No chance!
Hoff gig?
Gig yn nhafarn fach yr Andrew Buchan yng Nghaerdydd, pan ddaeth y sengl ‘Womanby’ allan [yn 2019].
Dyna pan ddaeth ein miwsig ni at ei gilydd yn eithaf taclus, y stwff o’r galon yn ogystal â’r ochr fwy ymosodol.
Wnes i wir fwynhau’r noson mewn stafell tiny gyda soffas a llenni, a dw i’n cofio cwympo dros y soffa!
Pam creu cerddoriaeth?
Sa i’n gwybod beth arall fydden i’n gwneud, mae jesd yn rhywbeth rwy’n obsesio amdano.
Mae rhai pobol yn angerddol am dimau pêl-droed neu ddringo mynyddoedd neu rywbeth, ac rydw i’n gwneud indi-roc!
Beth yw eich atgof cynta’?
Dw i yn cofio rhedeg lawr y coridor yn nhŷ mam pan oeddwn i yn rhyw dair oed, ac roedd y coridor yn edrych yn anferth bryd hynny…
Beth yw eich ofn mwya’?
Newid hinsawdd.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Chwarae pêl-droed pump-bob-ochr bob hyn a hyn, ac weithiau mynd i redeg. Ond ddim yn aml iawn.
Mae Owain [drymiwr Hyll] yn chwarae pump-bob-ochr i safon uwch – dyna beth mae e’n ddweud!
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Achos y pandemig, fyswn i’n gwahodd Virginia Woolf, a Jenny Odell sy’n sgrifennu hefyd.
Ac efallai’r canwr Tom Waits hefyd.
A take-away o Canton i’w fwyta.
Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?
Mae hwn yn awkward i ateb os rydych chi’n sengl… ond wna i jesd dweud bod yna gwpwl o contenders.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Yn Hyll rydan ni’n dyfynnu sylwebaeth bêl-droed lot, sy’n gallu bod yn annoying, ond rydw i’n ei wneud e hefyd.
Felly bydd rhywun yn chwarae rhywbeth sy’n dda, a bydd rhywun yn dynwared Malcolm Allen a dweud: ‘Dio’m yn naturiol!’
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Mae pobol sy’n gwisgo gwisg ffansi yn seriously codi ofn arna i.
Ond rydw i wedi bod ar ambell ‘Noson Crys Cachu’…
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Mae pethau embarrassing yn digwydd i fi yn weddol aml gyda Hyll pan mae yna gynulleidfa yna.
Yr un diweddaraf oedd pan wnes i wylio’r fideo ar gyfer y gân ‘Ar draws y bydysawd’ ac roeddwn i’n meddwl: ‘Oh my God! Beth ydw i wedi gwneud?’
Yn y fideo, dw i wedi gwisgo lan mewn shit suit ac yn cwympo drosdo dair gwaith, oedd yn ormod…
Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?
Roedd yna glwb roeddwn i’n arfer mynd i pryd oeddwn i yn y brifysgol ym Manceinion [yn astudio Daearyddiaeth], o’r enw The Antwerp Mansion.
Roedd o mewn hen embassy oedd wedi ei adael i fynd yn derelict, wedyn roedd rywun wedi agor clwb oedd yn hollol amlwg yn anghyfreithlon i mewn yna.
Fe gawson ni gwpwl o nosweithiau insane yn y fan yna…
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Y Blaid Geidwadol a Biliwnyddion… rydw i’n Sosialydd ac yn bell i’r chwith.
Beth yw eich hoff ddiod feddwol?
Os mae heulwen, rydw i’n ffan o rum and coke. Ac yn y gaeaf, unrhyw lager!
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Yn ddiweddar wnes i ailddarllen Moments of Being, sef atgofion Virginia Woolf. Rydw i’n hoffi’r ffordd mae hi’n crybwyll pethau a dweud ‘maybee’ ac ‘I don’t know’.
Beth yw eich hoff air?
Sylwedd – mae e’n disgrifio rhywbeth rydw i’n chwilio amdano. Os yw rhywbeth yn bwysig ac yn ddilys, oes yna sylwedd iddo?
Mae Mymryn gan Hyll ar gael i’w ffrydio nawr