Mae gwaith ymchwil gan Gymro Cymraeg o Ben Llŷn wedi dangos fod canran uchel o droseddwyr treisgar wedi dioddef rhyw fath o niwed i’r ymennydd.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi penodi’r Athro Huw Williams i gynghori barnwyr ar draws y byd ar sut i roi ystyriaeth i anafiadau i’r ymennydd mewn achosion llys.

Yn academydd sy’n arbenigo mewn Niwroseicoleg Glinigol, mae Huw Williams hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Niwroseicoleg Glinigol ym Mhrifysgol Caerwysg (Exeter).