Ar hyn o bryd, mae yna ddwy hosbis sy’n darparu gofal arbenigol i blant sy’n ddifrifol wael yng Nghymru – Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith – sy’n derbyn llai na 10% o’u cyllid blynyddol o goffrau Llywodraeth Cymru.

Mae’r ganran hon yn cymharu yn anffafriol gyda gwariant yng ngwledydd eraill Prydain, ac un gwleidydd yn galw am unioni’r sefyllfa.