“Ges i fy ngeni a’m magu yn Lloegr, ond dw i wastad wedi teimlo cysylltiad agos iawn â Chymru. Dw i’n ystyried fy hun yn Gymro a dw i wastad wedi bod eisiau trio deall pam, a nawr dw i’n deall. Dw i wir yn,” esbonia’r canwr, actor a chyflwynydd, Michael Ball, wrth sgwrsio’n frwdfrydig am ei gyfres ddogfen newydd, Wonderful Wales with Michael Ball, sy’n mynd ag o i bob rhan o Gymru.