Pan nad yw Meinir Howells yn cyflwyno’r rhaglen deledu Ffermio, mae hi’n brysur yn byw’r bywyd amaethyddol ar y fferm deuluol ar gyrion tref Llandysul yng Ngheredigion.

Mae hi’n dweud mai ei hoff beth am y gwaith teledu yw’r amrywiaeth, a’r ffaith fod Ffermio yn gyfle i hyrwyddo amaethyddiaeth, ond yn cyfaddef mai’r gwaith o ffermio oedd wastad yn y galon.