Portread o Deio Owen

Ychydig iawn o Gymry Cymraeg sydd wedi bod yn Llywyddion Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn y blynyddoedd diweddaraf.

Ond bachgen o Lŷn sydd wedi meithrin ei ddoniau gyda’r Ffermwyr Ifanc fydd y nesaf i fod yn ben ar y corff sy’n cynrychioli lles a budd holl fyfyrwyr y wlad.

Bydd Deio Owen yn dechrau’r rôl ar ôl i’w dymor fel Is-lywydd Iaith a Diwylliant Cymru i Undeb Myfyrwyr Caerdydd ddod i ben yn yr haf.