Mae sylw mawr wedi ei roi i broblemau tai Haf yn ardaloedd arfordirol y gorllewin megis Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Benfro.

Ond mae tai – ac yn benodol, faint o rai newydd sydd eu hangen – yn bwnc llosg ym mhen arall y wlad hefyd.

Mae criw’r Blaid yn Wrecsam yn taflu dŵr oer am ben y cynllun sy’n pennu y bydd angen codi miloedd o dai yn y gogledd-ddwyrain yn y blynyddoedd nesaf…

“Twf y boblogaeth yn Wrecsam oedd yr isaf yng Nghymru yn y flwyddyn a fu – dim ond 0.7% neu 98 yn fwy o bobol yn ôl amcangyfrifon canol-blwyddyn diweddara’r Llywodraeth.

“Dyma gadarnhau tueddiadau diweddar ble mae poblogaeth bwrdeistref sirol Wrecsam wedi aros yn llonydd neu grebachu fymryn.

“Er y dystiolaeth newydd, mae’r cyngor yn benderfynol o fynd yn ei flaen gyda Chynllun Datblygu Lleol fyddai yn caniatáu codi 7,700 o dai newydd – nifer sy’n seiliedig ar ragolygon twf poblogaeth sy’n hen ac yn anghywir wrth ragweld twf dramatig o 10% yn y boblogaeth dros y ddegawd sydd i ddod…

“Os yw’r cyngor yn parhau gyda’r cynllun hwn, mi fydd yn creu problemau anferthol hirdymor i Wrecsam. Y perygl yw agor y llifddorau ar gyfer stadau tai mawr allan yng ngwyrddni’r wlad. Mae’r adeiladwyr stadau tai wrth eu boddau ond yn y cyfamser mae gan Wrecsam dai ac eiddo gwag sydd wedi eu gadael i bydru ac mae gwasanaethau [cyhoeddus] yn ei chael hi’n anodd dygymod gydag anghenion y boblogaeth bresennol.” (wrecsamplaid.blodspot.com)

Yn ôl amcangyfrifon diweddara’r Llywodraeth ar gyfer twf poblogaeth y flwyddyn a fu, bu twf o 397 (+0.57%) ym Môn, 611 (+0.49% yng Ngwynedd), 200 (+0.28) yng Ngheredigion, a 933 (+0.74) yn Sir Benfro… a’r unig sir yng Nghymru welodd ostyngiad yn y boblogaeth oedd Abertawe, gyda 430 (-0.17%) yn llai yn byw yno.

Ac mae yna un o Aelodau newydd y Blaid yn y Senedd wedi rhybuddio nad problem y Fro Gymraeg a chymunedau arfordirol yn unig yw’r busnes methu fforddio tai yma.

Peredur Owen Griffiths yw AoS newydd Plaid Cymru sy’n cynrychioli Rhanbarth De Ddwyrain Cymru…

“[Dyma] ardal sydd ddim yn cael ei hadnabod am doreth o dai haf fel rhai rhannau eraill o’r wlad.

“Er hynny, mae’r cymunedau o fewn fy rhanbarth wedi eu heffeithio gan yr argyfwng tai. Asgwrn y gynnen – sy’n wir os ydych yn byw yn Abersoch nei Abertyleri – yw nad yw pobol yn aml iawn yn gallu prynu cartrefi yn y llefydd y maen nhw’n ei alw yn gartref…

“Yn y flwyddyn a fu, mae pris arferol eiddo yng Nghaerffili wedi cynyddu dros 10%. Darlun tebyg gewch chi ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Merthyr Tudful.

“Pan gymharwch chi hynny gyda’r cynnydd yn y cyflog wythnosol yng Nghymru tros yr un cyfnod – mae 0.31% yn gyfystyr â llai na phris coffi mewn caffi – mae yn hawdd gweld pam bod tai yn fwyfwy amhosib i’w prynu a pham bod pobol ifanc wedi eu bedyddio yn ‘Generation Rent’.

“Golyga hyn fod pobol yn rhai o’r llefydd tlotaf yng Nghymru yn cael eu prisio allan o’u cymunedau…”

Mae Peredur yn dadlau bod angen ailymweld â’r diffiniad o ‘dai fforddiadwy’ os ydyn ni am daclo’r sefyllfa…

“… mae tai fforddiadwy yn wahanol i dai y gallwn ni fforddio.

“Mae un yn derm a ddefnyddir gan adeiladwyr i gydymffurfio gyda rheolau cynllunio ac mae’r llall yn ganolog i ddyfodol ein teuluoedd, cyfeillion, cymdogion a’n cymunedau.

“Hoffwn weld datblygwyr yn cael eu gorfodi i adeiladu mwy o dai sy’n fforddiadwy… ar gychwyn unrhyw broject, fel nad oes modd iddyn nhw osgoi eu cyfrifoldebau tua therfyn y cyfnod adeiladu.” (nation.cymru/opinion)