Roedd rhyw sylwebydd gwleidyddol yn bownd o ddefnyddio pêl-droed i wneud ei bwynt. Wele Theo Davies-Lewis yn thenational.wales …
“Mae yna wersi… i wleidyddion. Mentrwch. Byddwch yn ddewr. Gwisgwch eich gwladgarwch ar eich llawes. Clichés? Efallai. Ond does dim dadlau eich bod, wrth wneud hynny, yn ysbrydoli pobol i ddilyn – dyna beth ydi arweinyddiaeth a chynhysgaeth y tîm Cymreig yma… fy ngobaith i yw y byddwn ni hefyd, gyda mwy o lwyddiant mewn chwaraeon yn ystod y dyddiau nesa’, yn gallu cael gwared ar label yr underdog. Ac os bydd ein gwleidyddion yn dilyn yr un esiampl â Bale, Ramsey a’r criw, mi allen ni wneud hynny am fwy na 90 munud.”
Dydi John Dixon ddim mor ffyddiog, o gofio cerdd Harri Webb am y bwji oedd yn strancio yn ei gaets. Yn ôl ei fathemateg o, mi fyddai’n rhaid aros yn hir i’r Blaid Lafur newid pethau …
“Dyna chwarter canrif o aros yn y gobaith gwan y bydd rhywbeth efallai yn newid yn y pen draw. Dim rhyfedd bod y dewis arall, y byddai Cymru’n dilyn yr Alban allan o’r undeb aneffeithiol, yn ennill tir. Dylai’r rhai sy’n credu y bydd yr holl frygowthan a’r cwyno yma gan wleidyddion Llafur yng Nghaerdydd yn arwain yn y pen draw at eu cefnogaeth i’r dewis arall amlwg gofio am y bwji… Fel y dywedodd Harri: ‘But he won’t get out, he’ll never try it / And a cloth on the cage will keep him quiet.’ Pan ddaw hi ati, mae’r bwji Llafur yn aderyn ufudd iawn. Ac mae San Steffan yn gwybod ble i gael digon o gadachau addas.” (borthlas.blogspot.com)
Ond tydi gwleidyddiaeth Cymru’n ddim wrth wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon ac mae yna sawl bwji ac eryr yno. Ar sluggerotoole.com mi fuodd Blaine McCartney yn esbonio rhan Deddf yr iaith Wyddeleg yn helyntion plaid Unoliaethol y DUP. Ai nhw sy’n atal deddf gadarn? Neu a ydi Sinn Fein hefyd yn ddigon bodlon iddi gael ei gwanhau?
“O gofio mai’r DUP, a charfannau helaeth ymhlith yr Unoliaethwyr yn fwy cyffredinol, sy’n troi’r iaith yn un o’u ‘llinellau coch’ – ydyn nhw felly yn barod i dderbyn y peryg sylfaenol y mae hyn yn ei greu i drefniant cyfansoddiadol cynyddol fregus Gogledd Iwerddon? Ac a ydi Sinn Fein yn barod i gamblo a gadael iddyn nhw wneud hynny, er mwyn eu delfryd gyfansoddiadol eu hunain, yn nes ymlaen? [h.y. aberthu hawliau Gwyddeleg er mwyn cynnal gwrthdaro ac ennill Un Iwerddon]. Neu a fyddan nhw’n rhoi’r un sylw i Ddeddf yr iaith Wyddeleg a’u nod cyfansoddiadol… yn ymladd dros y naill mor gryf â’r llall?”
Ac, o’r Alban, mae cynnig Llywodraeth Prydain i ddileu EVEL (English Votes for English Laws) hefyd yn codi amheuon …
“Byddai’n siŵr o wylltio’r cenedlaetholwyr Seisnig bythol-ddig sy’n awchus ond heb eu bodloni gan fuddugoliaeth byrrhig Brexit – ond pwy arall fyddai hyn yn eu bodloni? Daw’r ateb gan ffynhonnell yn Whitehall mewn dyfyniad yn The Times: ‘Byddai dileu EVEL yn ail-gadarnhau’r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol mai un Deyrnas Unedig ydyn ni…’ Dyna ni. Undebwriaeth gyhyrog ydi hyn. San Steffan yn adennill rheolaeth… yn tanseilio datganoli… mae cenedlaetholdeb Seisnig yn (ail) gynhyrchu Prydeindod.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)