Prosiect newydd Llwyddo’n Lleol
Mae 10 person ifanc o Wynedd a Môn wedi cael eu dewis i fod yn rhan o brosiect newydd a chyffrous gan Llwyddo’n Lleol, Menter Môn. Dyma brosiect sy’n cynnig hyfforddiant yn y maes marchnata, a’r cyfle i gydweithio â busnesau lleol.
Ymhlith y rhai dan hyfforddiant, mae Mali Llyfni yn dechrau ar ei rôl yn Swyddog Marchnata gyda chwmni cyfreithwyr newydd, Lloyd Evans & Hughes, a chwmni datblygu, darparu a dysgu gweithgareddau awyr agored, Ar y Trywydd. Darllenwch stori Mali ar DyffrynNantlle360.
Prosiect newydd Llwyddo’n Lleol!
Dim Steddfod na Sioe eleni, ond bwydo’r G7
Ar gwmni Cegin Gwenog oedd y cyfrifoldeb o fwydo cannoedd yn Uwchgynhadledd G7 yn Bodmin, Cernyw, yr wythnos ddiwethaf. Y dasg oedd gweini prydau bwyd i ryw 1,000 o heddweision bob dydd, dros gyfnod o 6 diwrnod gyda gwasanaeth 24 awr.
Tony a Mair Hatcher aeth lawr i Gernyw ynghyd â 13 o staff profiadol Cegin Gwenog i borthi’r heddweision wedi cyfnod prysur iawn o gynllunio. Mwy o’r hanes ar Clonc360.
Dim Steddfod na Sioe eleni, ond bwydo’r G7.
Safle Treftadaeth y Byd yn fygythiad i’r Gymraeg?
Mae Cylch yr Iaith wedi galw ar Gyngor Gwynedd i weithredu i warchod cymunedau’r ardaloedd llechi rhag effeithiau gor-dwristiaeth.
Os bydd ardaloedd cyfan yn cael eu dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO, y pryder yw y byddan nhw’n troi’n fwy o gyrchfannau gwyliau nag y maen nhw eisoes. Yn ôl y mudiad, gallai hyn gynyddu nifer yr ail dai a thai gwyliau, a gwanhau sefyllfa’r Gymraeg fel iaith y gymdeithas.
Mae gan Cylch yr Iaith gyfres o argymhellion i Gyngor Gwynedd – ydych chi’n cytuno? Ewch i wefannau bro Arfon i rannu eich barn.
Blas o’r bröydd
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Pêl-droedwyr ifanc Cwmann yn hyderus am lwyddiant Tîm Cymru, gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Dim Steddfod na Sioe eleni, ond bwydo’r G7, gan Nia Wyn Davies ar Clonc360
- ‘Pob lwc hogia!’, gan Non Tudur, ar DyffrynNantlle360