Mae merch o Wynedd yn galw am ragor o is-deitlau mewn ffilmiau yn y sinemâu i helpu pobol fyddar.

Daw Amy Warrington o Benygroes ac mae hi yn ddwys-fyddar ac yn gwisgo mewnblaniad cochlea ers ei bod hi’n ddwyflwydd a hanner. Ac mae hi’n defnyddio iaith arwyddo (BSL), yn ogystal â siarad Cymraeg a Saesneg.