Wrth i arweinwyr rhai o wledydd cyfoethoca’r byd ddod ynghyd yng Nghernyw ar gyfer uwchgynhadledd y G7, roedd criwiau yn protestio ledled Cymru gan alw am wneud llawer mwy i daclo newid hinsawdd.

Bu aelodau Gwrthryfel Difodiant yn cynnal digwyddiadau hwyliog mewn cymunedau arfordirol sydd mewn perygl o gael eu boddi, gan gynnwys Penmaenmawr ger Conwy, Borth ger Aberystwyth, Aberteifi, a’r Mwbwls ger Abertawe.