Am dro i Lyn Llygad Rheidol
Mae’n 620 mlynedd i’r mis ers brwydr Hyddgen – pryd y trechodd mintai Owain Glyndŵr fyddin lawer iawn mwy brenin Lloegr.
Wyddoch chi ym mhle mae Carn ac afon Hyddgen?
Iestyn Hughes aeth am dro o Nant-y-moch i Lyn Llygad Rheidol, a thrwy lens ei gamera mae’n disgrifio daearyddiaeth llecyn sydd wedi chwarae rhan fawr yn hanes ein cenedl. Mwy ar BroAber360.