Yn dilyn damwain ddifrifol yn 2019, cafodd Hana Dyer ddiagnosis o’r cyflwr PTSD yn gynharach eleni. Rŵan mae’r perchennog caffi yn bwriadu treulio chwe wythnos yn cerdded 500 milltir er mwyn codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl…

“Mae wedi newid fi gymaint, dw i’n teimlo fel person hollol wahanol ers y ddamwain,” meddai Hana Dyer, am y digwyddiad nôl ym mis Hydref 2019, pan syrthiodd darn o garreg o hen adeilad yn Rhuthun, a’i tharo ar ei phen.