Dyw hi ddim syndod bod gan gyflwynydd siriol Sgorio gasgliad o grysau pêl-droed Cymru ac Arsenal…

Crysau pêl-droed

Dylan gyda’i blant, Anni a Ffredi

Y crys pêl-droed cynta’ ges i oedd un Arsenal, un coch a gwyn. Ges i fy ngeni yn 1974 ac roedd pethau lot fwy syml o ran crysau pêl-droed adeg hynny. Dw i wedi bod yn prynu, casglu a gwisgo nhw am ddeugain mlynedd a mwy erbyn hyn. Mae ‘da fi grys Cymru o ganol yr 80au, un Hummel – un o’r manteision o fod yn chunky teenager ydy bod e dal yn ffitio fi! Ffefryn arall ydy crys Adidas sy’ wedi mynd ar goll. Roedd e o 1984 pan oedd Mark Hughes wedi sgorio yn erbyn Sbaen. Dw i’n mynd lan i’r atig yn nhŷ fy rhieni yn y gobaith o ffeindio fe, ond dw i ddim wedi hyd yn hyn. Mae rhywbeth eiconig am yr hen fathodyn Adidas, ac maen nhw’n ffitio plant fi [Anni sy’n 10 oed, a Ffredi sy’n 8] rŵan hefyd. Does dim diddordeb gan Anni yn gyffredinol mewn pêl-droed ond mae hi’n hoffi crysau Cymru. Mae Anni efo gwallt melyn ac mae hi wrth ei bodd bod y crys [oddi cartref Cymru] yn felyn – mae pethau fel na’n bwysig pan chi’n 10 oed! Mae Ffredi efo mwy o ddiddordeb ond dw i’n credu bod e’n trio cadw fi’n hapus. Mae’n hoffi crysau Arsenal ac yn licio’r un efo lliwiau pinc llachar.

Fy hoff grys Arsenal ydy un melyn a glas efo’r patrwm zigzag mwya’ boncyrs – mae’n cael ei alw’n bruised banana. Wnes i brynu’r crys yn Steddfod yr Wyddgrug yn ‘91. Mae wedi dod yn un o’r crysau enwoca’ ac yn werth lot o arian erbyn hyn. Dw i’n gyndyn i werthu fe ond falle wna i un diwrnod, os oes raid.

Syml a steilish

Dw i ddim yn foi tracsiwt a dw i’n casáu bod yn sgryffi. Dw i’n hoffi meddwl bo fi’n dilyn ffasiwn ond dw i wedi cyrraedd oedran arbennig – dw i’n 46 oed – lle mae popeth yn blaen, yn syml ac yn weddol steilish, dim byd cymhleth. Mae genna’i lond wardrob o bethau glas tywyll. Trio peidio tynnu sylw – dyna’r tric. Dw i’m yn un sy’n gwisgo a thaflu ond dw i’n trio peidio gwisgo’r un peth ddwywaith. Achos bo ni allan lot ar ochr cae yn y gwynt a’r glaw, dw i wedi gwario lot ar gotiau dros y blynyddoedd – maen nhw’n edrych yn dda ond does yna’r un wedi cadw fi’n gynnes!

Mae yna draddodiad o wisgo siwt a thei i gyflwyno [ar y teledu] ond dw i’n credu bod pethau wedi newid lot dros y blynyddoedd diwethaf. Dw i ddim yn foi tei, mae crys a throwsus yn iawn. Dw i wedi gorfod gwisgo’n fwy steilish ers i Owain Tudur Jones ymuno â chriw Sgorio. Achos mae fe mor dal a golygus mae’n cael getawe efo gwisgo unrhyw beth. Mae ambell siaced amheus iawn gan Owain ond achos bod e’n 6’4’’ a llygad glas does neb yn poeni! Achos bo fi’n ddim ond 5’8’’ falle bydd raid i fi ddechrau gwisgo Cuban heels!

Dw i yn licio siwt weithiau ond mae’n gorfod bod yn achlysur mawr – os ydi Cymru yn cyrraedd y ffeinal wna i wisgo siwt!

Ar gyfer fy mhriodas wnes i wisgo morning suit, oedd yn draddodiadol iawn. Ond pan dw i’n edrych nôl ar y lluniau dw i’n difaru na wnes i wisgo siwt. Mae fy ngwraig yn licio nhw ond dw i’m yn meddwl bo fi’n edrych fel fi – bydde’ siwt wedi bod yn fwy syml, llai ffysi.

Steil yr Ewros

Es i mas i siopa i brynu rhywbeth newydd ar gyfer yr Ewros. Siaced a chrys newydd o Hugo Boss – s’dim byd tebyg i grys gwyn, newydd. Fel Cardi, dw i’n dda iawn mewn sêls, ac yn gyndyn iawn i dalu pris llawn am bethau. Ond doedd dim lot o amser gyda fi ac roedd y peth cyntaf wnes i drio mor berffaith – roedd yn ddrytach na fyswn i fel arfer yn talu, ond achos bod e’n achlysur mawr wnes i jest meddwl sod it. Roedd cyflwynwyr yn arfer cael clothes allowance ar un adeg, ond wnes i golli’r gravy train yna!

Esgidiau

Dw i’n hoff iawn o sgidie, mae gormod gyda fi. Mae lot o bobl yn gwisgo trainers i gyflwyno, a weles i rywun yn gwisgo rhai du efo sawdl gwyn. O’n i’n obsesd efo ffeindio pâr tebyg ac, yn y diwedd, mi wnes i ffeindio rhai Kurt Geiger yn y sêl. Roedden nhw’n hanner pris, ac yn un o’r bargeinion gorau.

Mae fy siwtces ar gyfer yr Ewros yn llawn sgidie – mae trainers du, dau bâr o trainers gwyn, sgidie smart, sgidie rhedeg, a fflip fflops. Mae sgidie gwaith yn gorfod bod yn gyfforddus. Pan chi ar eich traed mor hir, mae ishe bod yn gyfforddus. Mae trainers Nike yn ffitio’n berffaith.

Gwallt a cholur

Dw i ddim yn gwario lot ar fy ngwallt ond dw i’n torri fe lot. Dw i’n mynd at y barbwr bron bob pythefnos er mwyn cadw fe’n fyr. Wna i dorri’r top bob dau fis a’r ochrau bob pythefnos – mae fy ngwraig yn meddwl bo fi’n insane. Mae jest yn teimlo’n ffres ar ôl cael crop. Dw i’n swnio’n high maintenance ond dw i ddim. Roedd y locdown yn hunllef, y tro cynta’ i fi beidio torri ochrau fy ngwallt ers blynyddoedd.  Prynes i shaver i ddefnyddio adre. Ro’n i’n rhoi selotap rownd fy mhen a shafio o danno fe. Roedd e’n well na’r disgwyl!

Dw i wedi gorfod rhoi make-up ymlaen mewn toiledau mewn caeau ffwtbol, a chi’n aml yn cael pobl yn edrych yn od arnoch chi. Ond mae angen [y colur] achos pan maen nhw’n rhoi golau arnoch chi mae’ch talcen yn sgleinio fel lighthouse! Dw i’n defnyddio stwff fy hunan ond, i fod yn deg, mae’r menywod make up wedi helpu dros y blynyddoedd.

Gemwaith

Roedd gen i gwpl o earrings yn coleg ond dw i ddim yn licio lot o ffỳs. Dw i’n gwisgo fy modrwy briodas sy’n platinum plaen, a dw i braidd byth yn gwisgo oriawr – dw i’n edrych ar fy ffôn i weld faint o’r gloch ydy hi.

Beth fysech chi’n ei achub o’r wardrob mewn argyfwng?

Dw i’n credu bydden i’n trio bachu cymaint ag sy’n bosib ond y crysau pêl-droed cyn unrhyw beth arall.

Mae holl gemau Ewro 2020 Cymru yn fyw ar S4C