Pryd wnaethoch chi gychwyn gwneud rhaglenni?

Aeth fy rhieni i Tenerife yn y 1990au cynnar a dod adref efo camera tâp VHS, ac roeddwn i’n ei ddefnyddio i drïo ail-greu golygfeydd enwog o ffilmia’ fel Jaws pan oeddwn i yn wyth neu naw oed.

Wedyn wnes i’n warthus yn yr ysgol, a blagio fy ffordd ar gwrs Media yng Ngholeg Menai, a fan yna wnes i ailddarganfod bo fi’n licio ffilmio stwff a gwneud ffilms.

Ro’n i’n gwneud skater films a horror films reit wael.

Ac erbyn hyn mae ganddoch chi PhD mewn Ffilm…

Es i i Brifysgol Bangor i astudio Ffilm, a methu pasio’r flwyddyn gynta’… wedyn wnaethon nhw ffeindio allan bo fi’n dyslecsig, a gesh i help efo hynny, a chael gradd 2:1.

Roeddwn i yn 19 oed yn dysgu darllen.

Wedyn ges i ddwy flynedd yn gweithio fel IT Support yn y cyngor, cyn torri collar bone fi yn kite syrffio, pan wnes i gael eureka moment a meddwl: ‘Shit! Ella fydda fi wedi marw heb drïo gwneud dim byd efo bywyd fi!’

Wedyn es i’n ôl i coleg a sgrifennu PhD efo teitl ff*cin hir – Memoirs of a humanoid; Welsh representation in micro-budget film making.

Oes yna unrhyw un yn eich galw yn Dr Siôn Griffiths?

Na!

Dw i wedi bod yn rhy brysur yn cael kids a gweithio i Heno, a basically ddim wedi cael amser i newid cardiau [busnes] fi.

Ond go-iawn, be’ fysa’r point?!

Beth sy’ dan sylw yn eich rhaglen ddogfen newydd i Hansh, Byd Fy Hun?

Roeddwn i eisiau gwneud doc am cefndir fi cyn bo fi wedi ffeindio bo fi eisiau gwneud ffilms – yr holl oeddwn i’n wneud oedd chwarae computer games.

Am chwe mis rhwng gorffen coleg a mynd i weithio i’r cyngor, roeddwn i ar y dôl ac yn gamer.

A’r syniad sydd gan bobol amdana chdi ydy bo chdi yn ddiog.

Ac mae o’n amser cachu, a’r unig beth sy’n dy gadw di fynd ydy bo chdi’n llwyddo i orffen y games yma…

Ac roeddwn i eisiau gwneud documentary yn dangos fod y gamers yma ddim yn ddiog, ac os rhywbeth, maen nhw yn herio’u hunain fwy on a daily basis nag os fysa rhywun jesd yn eistedd yn gwylio Cash In The Attic neu beth bynnag.

Pa raglenni dogfen eraill ydach chi wedi eu creu i Hansh?

Wnes i un am hogan sy’n rapio ac efo cefndir efo cyffuriau a’i chariad yn boddi a ballu.

Wnes i un am artist efo ADHD, a wnes i un am Gapel Engedi [yng Nghaernarfon] lle mae artistiaid bizarre yn creu gwaith.

Dw i jesd yn licio pobol od, basically… pobol sy’n ddiddorol a lliwgar i fi.

Freaks and geeksI like my own kind!

Beth yw eich atgof cynta’?

Gorfod dewis rhwng figure Batman a Spider-Man yn y farchnad yn Llangefni.

Ac mae o’n bygio fi hyd heddiw bo fi wedi dewis Batman, [a hynny] am bod ganddo fo cape, achos boi Spider-Man ydw i. 

Beth yw eich ofn mwya’?

Trowsus David Bowie yn y ffilm Labyrinth – ddyla peth fel yna ddim bod mewn ffilm i blant!

Beth yw eich gwaith naw tan bump?

Fedrith o fod yn ffilmio pennod o Ralïo, neu hangio allan efo Gerallt Pennant, OTJ [Owain Tudur Jones] neu Elin Fflur yn gwneud teli…

Dw i wedi gweithio yn sortio IT yn social services y cyngor, ac wedi darllen ffeils am blant yn cael eu cam-drin a ballu. Wedyn pan ti wedi darllen y ffeils yna, mae be’ dw i’n wneud rŵan yn cake walk.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Mae’r camera yn gwaith yn eitha’ trwm, ac mae gofalu am y plant yn blino fi – mae Syfi yn bedair mewn mis, a Ceisi bron yn un.

Beth sy’n eich gwylltio?

Ff*cin Stanley Kubrick!

Dw i’n licio The Shining, ond mae pobol yn brolio Kubrick lot gormod. Iawn oedd o…

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Y film directors George Romero, Sam Raimi a Robert Rodriguez… a dw i’n feji, felly bwyta bean burritos fysa ni.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Dude!

Dw i’n Teenage Mutant Ninja Turtles fan for life, man!

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Ges i gic allan o Ysgol Feithrin ddwywaith am fynd yna wedi gwisgo fel monster characters gwahanol, a’r hogan yma yn dechrau crïo.

Basically, roedd Nain yn licio mynd i Lundain i shopio, a dod adra efo’r cosdiwms random yma i ni.

Ag es i i’r ysgol feithrin wedi gwisgo fel Mummy a Frankenstein, a dw i’n ff*cin lyfio’r outfits yna!

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Ges i gic allan o glwb yn Las Vegas am yfed poteli oedd ar y byrddau, heb sylwi bod angen talu amdanyn nhw… a deffro’r bora wedyn mewn car yn y desert, hanner ffordd rhwng LA a Vegas.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Roeddwn i’n arfer cael night terrors, ond dw i’n well nag oeddwn i – basically, efo night terrors, rwyt ti dal yn breuddwydio er bo chdi wedi deffro.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Parma violet gin.

Beth yw eich hoff ffilm?

Evil Dead 2 gan Sam Raimi. Mae o’n really scary a freaky, ond yn hilarious hefyd.

Sut le yw eich cartref?

Rydan ni ar ganol ei wneud o fyny, felly mae yna gwpwl o loriau sydd yn work in progress.

Ond eventually, fydd o’n awesome.

Townhouse ydy o, yn ganol tref Caernarfon.

Bordor yr ardd ydy wal y castell, sydd yn awesome, ac rydan ni efo balconi ar y wal.

Eventually, fydd yna sinema yn y basement, efo sgrin fawr i chwarae computer games.

Beth yw eich cân karaoke?

‘Creep’ gan Radiohead neu ‘Loser’ gan Beck.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Fi sydd yn mynd i sgwennu biography Gerallt Pennant… mae o wedi cytuno, so it’s gonna be cool.