Mae Captain Beany wedi codi miloedd o bunnau i elusennau gyda’i giamocs bînllyd blêr, wedi sefyll mewn llwythi o etholiadau, ac mae ei fryd o hyd ar achub y byd.

Eleni mi heriodd Brif Weinidog Cymru, ac roedd wedi bwriadu penodi ei hun yn Arlywydd ar Gymru pe byddai wedi ennill. Ofer fu’r ymgais i ddisodli Mark Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd, fodd bynnag.

Mae gan y Ffa-ddyn restr hir o orchestion ecsentrig, gan gynnwys taith i gopa’r Wyddfa gyda phlât o fîns ar dost yn ei law.