Yn adnabyddus am arwain y gymuned Gymraeg yn Lerpwl, mae D Ben Rees yn awdur sydd wedi cyhoeddi llyfrau lu, ac wedi treulio dros hanner canrif yn y weinidogaeth.

Cyn iddo ymddeol ddiwedd mis Mawrth eleni, bu’n weinidog am 59 mlynedd, gan dreulio 53 o’r rheiny yn ninas y Scousers.

Mi sefydlodd y tŷ cyhoeddi Cyhoeddiadau Modern Cymreig yn 1963, ac yn ystod ei oes mae wedi sgwennu, golygu, a chyhoeddi llyfrau rhif y gwlith (gormod, yn llythrennol, i’w rhestru yma).