Portread o Sean Fletcher
Mae Sean Fletcher yn gyflwynydd o fri, yn Gymro Cymraeg mabwysiedig, ac mae ganddo atgofion melys – os nad ychydig yn lliwgar – o weithio gyda Piers Morgan.
Mae’n bennaf adnabyddus am ei waith cyflwyno ar raglenni teledu poblogaidd megis Good Morning Britain a Countryfile.
Ac yn ddiweddar bu’n cyflwyno Terfysg yn y Bae ar S4C, sef rhaglen yn bwrw golwg ar derfysgoedd hil Caerdydd yn 1919.