Ar ôl wythnosau o ymgyrchu a checru, mae gyda ni Senedd newydd sbon o’r diwedd!

Mae sawl un o’r cymeriadau mwyaf ‘lliwgar’ bellach wedi’u taflu mas ar eu tinau gan gynnwys Neil McEvoy, Mark Reckless, a Neil Hamilton.

Ac er y rhyddhad, mae hynny wedi peri i Bwrlwm boeni mai Senedd ddigon distaw fydd hwn.

Am ddifflach a gwaraidd fydd y siambr heb y criw yma! Beth am obeithio bydd bach o dân yn ein haelodau newydd!