Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i’n ailddarllen un o fy hoff lyfrau, y nofel Evening Class gan Maeve Binchy. Mi fydda’ i’n gwneud hyn yn reit aml – yn troi at hen ffrind os dw i wedi blino neu angen dipyn o gysur. Er fy mod i’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, dydy hynny’n amharu dim ar y pleser o ailddarganfod y stori a’r cymeriadau. Mae Maeve Binchy yn feistres ar greu cymeriadau cofiadwy ac apelgar.