Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf…
Cynlluniau ar gyfer trac beicio ym Methesda
Mae Partneriaeth Ogwen yn gobeithio cymryd prydles ar ddarn o dir yn hen Chwarel Pantdreiniog, uwchben y Stryd Fawr ym Methesda.
Mae’r hen chwarel hon bellach yn ardal eang uwchben maes parcio, ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i weithio gyda’r Bartneriaeth i greu trac cymunedol fydd ar gael yn rhad ac am ddim yng nghornel isaf y safle hwn.
Ewch i Ogwen360 i ddarllen mwy ac i roi eich barn am y datblygiad.
Golau gwyrdd i ddatblygiad tai Pen-y-ffridd
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi caniatáu apêl gan gwmni tai Adra, a rhoi’r golau gwyrdd i ddatblygiad o 30 annedd ar dir ym Mhen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd.
Howard Huws sy’n esbonio hanes y cais cynllunio dadleuol ac yn trafod effaith bosib y datblygiad ar yr ardal leol.
Dyma un o’r straeon cyntaf i gael ei chyhoeddi gan bobol Bangor a’r Felinheli ar eu gwefan fro newydd. Cadwch lygad ar BangorFelin360 am y diweddara’.
Blas o’r Bröydd
Llwybr godidog ar gyfer Mis Cerdded Cenedlaethol
O’r olwyn ddŵr hynafol yn Ffwrnes, lan i Gwm Einion i weld “panorama go-iawn” yr arfordir yn ymestyn o’ch blaen. Cylchdaith o ryw 3 ½ milltir sydd dan sylw. Dyma un o hoff wâcs Dana Edwards yn ei milltir sgwâr, ac i ddathlu Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, mae’n rhannu lluniau a chyfarwyddiadau i helpu gweddill pobol y fro i’w dilyn a’i mwynhau.
Oes gennych chi hoff lwybr cerdded? Beth am ei rhannu ar eich gwefan fro er mwyn i fwy o bobol ei darganfod y mis yma?
Mis Mai – Mis Cerdded Cenedlaethol