“Dw i’n casáu’r awen.” Dyma eiriau dramatig nofelydd Cymraeg mewn sgwrs yn rhan o’r ŵyl nofelau trosedd gyntaf erioed yng Nghymru dros benwythnos Calan Mai.
Gwen Parrott, y nofelydd o Sir Benfro a bellach yn byw ym Mryste, yw’r awdur dan sylw.
Daeth ei sylw mewn sgwrs yn rhan o’r unig sesiwn Gymraeg yn ystod Gŵyl Crime Cymru Ddigidol 2021 – a oedd hefyd yn cynnwys sêr rhyngwladol fel Lee Child, awdur cyfres Jack Reacher.