Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf…

Clwb Hoci Caernarfon yn ailddechrau

“Roedd eu brwdfrydedd a’r hapusrwydd o gael bod yn ôl ar y cae yn amlwg, ac aelodau hŷn y clwb sy’n gwirfoddoli i redeg y sesiynau yn falch iawn o gael bod yn ôl hefyd.”

Daeth 65 o blant i sesiynau hyfforddi ieuenctid Clwb Hoci Caernarfon, a wnaeth ailddechrau yn Llanrug yr wythnos ddiwethaf. Gyda chyfyngiadau covid yn dechrau llacio, mae clybiau a mudiadau wrthi’n ffeindio ffyrdd o ailddechrau, er mwyn dod â phlant, pobol ifanc ac oedolion ynghyd gan ailgydio yn eu diddordebau. Mae sôn am sesiynau blasu Clwb Criced Bethesda ar Ogwen360, a hys-bys am sesiynau pêl-droed hwyliog ar Caernarfon360

Fyddwch chi’n cynnal pethau yn yr awyr agored yn fuan? Cofiwch rannu ar eich gwefan fro – gallai eich syniad ysbrydoli eraill.

Clwb Hoci Caernarfon 

Nerys John

Adran Ieuenctid wedi cael ail-gychwyn!!

 

Galw am gofeb i “Frenhines Llenyddiaeth Ramant” a dirgelwch ei bedd di-enw

Mae tiwtor ym Mhrifysgol Aberystwyth, Liz Jones, yn galw am gofeb i gofio Marguerite Jervis, awdur toreithiog a fu yn byw ym Mhenrhyn-coch a’r Gors.

Pwy oedd Marguerite, a beth oedd ei chysylltiad â gogledd Ceredigion?

Bydd yn rhaid i chi fynd i BroAber360 i wybod mwy!

Galw am gofeb i “Frenhines Llenyddiaeth Ramant” a dirgelwch ei bedd di-enw

Mererid

Mae Liz Jones yn galw am blac enw ar dŷ Marguerite yn Queen’s Square, Aberystwyth i’w chofio

 

Golau gwyrdd i ddatblygiad tai Pen-y-ffridd

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi caniatáu apêl gan gwmni tai Adra, a rhoi’r golau gwyrdd i ddatblygiad o 30 annedd ar dir ym Mhen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd.

Howard Huws sy’n esbonio hanes y cais cynllunio dadleuol ac yn trafod effaith bosib y datblygiad ar yr ardal leol.

Dyma un o’r straeon cyntaf i gael ei chyhoeddi gan bobol Bangor a’r Felinheli ar eu gwefan fro newydd. Cadwch lygad ar BangorFelin360 am y diweddara’.

Blas o’r Bröydd

Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf

 

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Fideo ‘y flwyddyn a fi’ gyda chwmni Morgan & Davies, gan Rhys Bebb ar Clonc360
  2. Fandaliaeth, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
  3. Y New Inn yn ailagor, ganEnfys Hatcher Davies ar Caron360