Nofel anturus i’r ifanc wedi ei lleoli mewn wyrcws yn 1867 yw Gwag y Nos. Dyma nofel gyntaf Sioned Wyn Roberts, sy’n Gomisiynydd Cynnwys S4C wrth ei gwaith bob dydd, yn gyfrifol am gomisiynu cyfresi poblogaidd i blant fel Deian a Loli, ond a fu’n athrawes Hanes cyn ymuno â’r cyfryngau.