Mae galw ar lywodraeth nesaf Cymru i wneud “newidiadau sylfaenol” i’r polisi tai cenedlaethol er mwyn blaenoriaethau anghenion cymunedau ar hyd a lled y wlad.

Grŵp lled newydd o ymgyrchwyr ddaeth i fodolaeth yn ystod y cyfnod clo sydd wedi rhoi’r Siarter Cyfiawnder Cartrefi at ei gilydd, fel yr eglura un o aelodau Cyngor Cymuned Aberdyfi yng Ngwynedd, wrth Golwg.