Mae’r blogwyr yn dechrau ecseitio. Dyma’r etholiad mwya’ diddorol ers blynyddoedd, medden nhw. A phawb yn disgwyl newidiadau …

“Dim ond gerfydd eu dannedd y llwyddodd Llafur i gadw sawl etholaeth [y tro diwetha’] ac, os bydd y naill neu’r llall o’r ddwy wrthblaid [Ceidwadwyr a Phlaid Cymru] yn gweld cynnydd yn eu cefnogaeth, gallai llawer o seddi newid ar unwaith. Dim ond symudiad o 5% sydd ei angen… er mwyn i naw sedd newid dwylo. Heb UKIP bellach yn rhannu’r bleidlais Geidwadol, mae’n debyg fod rhaid i Lafur gynyddu eu cefnogaeth ers 2016 er mwyn cadw’r holl seddi hyn; tasg anodd, wedi 20 mlynedd yn llywodraethu.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)

Ac i Carwyn Tywyn ar yr un wefan, ‘wal goch’ y Gogledd-ddwyrain yw’r maen prawf …

“Mae’r chwech etholaeth yn hen sir Clwyd wedi dod yn faes brwydr allweddol yn ymdrech y Ceidwadwyr i gynyddu eu grym ym Mhrydain Brexit. Fodd bynnag, byddai rhagor o lwyddiant i’r Ceidwadwyr yn 2021 yn achosi canlyniad anfwriadol o yrru Llafur a Phlaid Cymru’n nes at ei gilydd yn y Senedd nesa’ ac yn creu gwrthdaro cliriach tros le Cymru yn yr undeb.” (nation.cymru)

Ac mae Dafydd Glyn Jones yn credu bod y Torïaid ar i fyny hefyd, am y rhesymau anghywir …

“Rhagolygon go dda i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, medd rhai o’r arolygwyr barn. Pam tybed? Ai record eu harweinwyr yn y Bae? Na, go brin. Fôt i Boris fydd hon, os gwireddir y darogan… gyda chwalu’r ‘mur coch’ fe ddarganfu cryn lawer o gyn-bleidleiswyr Llafur yr hen ardaloedd diwydiannol pwy yw eu gwir gynrychiolydd, sef Alf Garnett. A dyma Boris yn ddiweddar wedi estyn dau lolipop i Alf: llai o gymorth i’r Trydydd Byd, a mwy o arfau niwclear i Loegr. Pa well neges i hen ‘Dorïaid Coch’ ym mhobman… Ac nid yw hen ardaloedd Llafur Cymru, de na gogledd, yn eithriadau o gwbl.” (glynadda.wordpress.com)

Darogan cydweithio (ond nid clymblaid) y mae Vaughan Roderick ar Cymru Fyw – ac mae ganddo fo dystiolaeth …

“Cymerwch y maniffesto Llafur… Mae’n cynnwys llwyth o addewidion ond ychydig iawn o’r rheiny fyddai angen deddfwriaeth i’w gwireddu. I fi mae hynny’n awgrymu’n gryf nad yw Llafur yn disgwyl llywodraethu gyda mwyafrif yn y Senedd.

Mae’n ddiddorol hefyd bod yr hynny o ddeddfwriaeth sy’ ’na yn ymwneud â phynciau lle y gellid disgwyl cefnogaeth gan Blaid Cymru… Fe fyddai angen llawer iawn mwy o ddeddfwriaeth i wireddu rhaglen Plaid Cymru ond… Heb os mae maniffesto’r blaid wedi ei lunio fel rhaglen lywodraethiant i’w osod gerbron yr etholwyr, ond gellir gweld y ddogfen hefyd fel rhyw fath o restr siopa ar gyfer senedd grog.” (Cymru Fyw)

A draw ar thenational.wales mae Theo Davies-Lewis yn cynhyrfu hefyd, wrth feddwl am bwysigrwydd y bleidlais …

“Mae’r hyn sydd yn y fantol yn llawer mwy na 14 mlynedd yn ôl. Yn ogystal ag ethol llywodraeth i newid ein heconomi, helpu ein Gwasanaeth Iechyd, neu greu gwell cysylltiadau trafnidiaeth, rydyn ni hefyd yn dewis gweinyddiaeth y bydd rhaid iddi sicrhau dyfodol cenedl ddatganoledig… mae ein hannibyniaeth yn wlad ddatganoledig dan fygythiad gan Downing Street sy’n gwbl benderfynol o ganoli ac ymosod ar ein meysydd deddfu.”