Wrth ystyried dyfodol yr iaith, mae’n bryd cydnabod bod rhai ardaloedd yn bwysicach na’i gilydd. Dyna ddadl Huw Prys Jones, newyddiadurwr sy’n ymchwilio i sefyllfa’r Gymraeg…

Wrth inni ateb cwestiynau’r Cyfrifiad yr wythnos yma, roedd hynny o dan gysgod pryderon cynyddol ynghylch effeithiau hirdymor y pandemig ar y Gymraeg.

Gyda mwy a mwy o drigolion dinasoedd Lloegr yn debygol o allu gweithio o gartrefi yng nghefn gwlad, mae’r bygythiad o chwalfa ddiwylliannol yn amlwg.